P-06-1439 Gwella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol hwyr y nos yn Ne a De-orllewin Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lisa Mart ôl casglu 8,226 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad yn gweithredu o fewn cyllidebau tynn er eu bod yn darparu llwyfannau hanfodol i dalent newydd. Mae’r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth wedi rhybuddio y bydd tua 10% o leoliadau cerddoriaeth llawr gwlad yn cau erbyn diwedd 2023.
Oherwydd diffyg cysylltiadau teithio hanfodol hwyr y nos, mae cynulleidfaoedd yn cael eu hatal rhag mynychu lleoliadau y byddent yn eu cefnogi fel arall.
Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i wella cysylltiadau teithio hanfodol hwyr y nos a sicrhau bod diwylliant ar lawr gwlad yn hygyrch ac yn cael ei warchod am flynyddoedd i ddod.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Llythyr agored i Lywodraeth Cymru - https://cy.swansea-arena.co.uk/an-open-letter-to-welsh-government
Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o 10 Cwestiwn sy’n sail i “Croeso i Gymru 2020 – 2025 Blaenoriaethau i’r economi ymwelwyr: crynodeb”
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Abertawe
· Gorllewin De Cymru